top of page

prif noddwr

3–4 Medi 2026
Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd
Award Ceremony Celebration

Categorรฏau Gwobrau

Mae enwebiadau bellach ar agor! Rydyn ni eisiau cydnabod gwaith ardderchog unigolion, timau a sefydliadau ar draws y sector, pobl ragorol y mae'u hymdrechion yn cryfhau ein hamddiffyn, diogelwch a gwytnwch cenedlaethol
Lab Work

Arloesi ym Maes Amddiffyn a Thechnoleg Diogelwch

Gwobr ar gael i'w noddi
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn dathlu SME sydd wedi darparu technoleg, ymchwil neu ddulliau newydd o weithio gwirioneddol arloesol sy'n cryfhau galluoedd amddiffyn, seibr, cuddwybodaeth neu ddiogelwch. Dylai'r arloesi ddangos gwreiddioldeb clir a budd mesuradwy.

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw sefydliad â hyd at 240 o weithwyr.

Beth sy'n cyfri fel arloesi?

Gall arloesi ymwneud â

  • Gwyddoniaeth neu dechnoleg (e.e. offer, systemau, llwyfannau newydd neu amlygu rhywbeth technegol newydd)

  • Gwelliannau gweithredol (e.e. prosesau, dulliau neu ffyrdd o weithio newydd)

  • Newidiadau o ran llywodraethu neu sefydliad

  • Dulliau newydd o ymdrin â chynaliadwyedd neu gyllido

 

Gall y rhai a enwebir fod wedi:

  • Creu'r syniad arloesol

  • Datblygu'r ateb neu'r arfer

  • Arwain ei roi ar waith o fewn i'w sefydliad neu sector

 

Dylai'r enwebiad ddangos sut mae'r arloesi wedi darparu manteision ystyrlon, fel:

  • Gallu amddiffyn neu ddiogelwch uwch

  • Llai o effaith amgylcheddol

  • Gwell effeithiolrwydd neu effeithlonrwydd gweithredol

  • Cynnydd mewn gwytnwch ariannol

  • Effaith cymdeithasol neu gymunedol cadarnhaol

Flags Against Sky

Cyfraniad Eithriadol i Wytnwch Cenedlaethol

Gwobr ar gael i'w noddi
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn cydnabod unigolyn y mae'u gwaith wedi cryfhau'n sylweddol pa mor barod mae'r DU, parhad, ymateb argyfwng, neu wytnwch cymdeithasol ehangach. Gallai'u cyfraniad ymwneud ag unrhyw sector hanfodol, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) iechyd, isadeiledd, diogelwch, llywodraeth leol, ymateb gwirfoddol, neu wasanaethau hanfodol.

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw unigolyn sy'n gweithio mewn unrhyw sefydliad, ar unrhyw lefel, y mae'u gweithredoedd wedi cael effaith ystyrlon ar wytnwch cenedlaethol.

Beth sy'n cyfrif fel cyfraniad eithriadol?

Dylai'r un a enwebir fod wedi dangos perfformiad sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol eu swydd. Gallai hyn gynnwys:

  • Darparu canlyniadau eithriadol ar gyfer eu sefydliad neu gleient

  • Cymryd yr awenau mewn sefyllfaoedd heriol neu dan bwysau mawr

  • Dangos arweinyddiaeth, arloesi, neu ymroddiad sydd wedi gwella canlyniadau gwytnwch yn uniongyrchol

  • Gwneud cyfraniadau parhaus neu dor ar ôl tro sy'n dangos rhagoriaeth dros gyfnod

 

Bydd yr enwebiadau cryfaf yn dangos yn glir sut mae gweithredoedd yr unigolyn wedi gwneud gwahaniaeth mesuradwy neu weladwy i barodrwydd, parhad, ymateb brys neu wytnwch cymunedol.

Handshake

Cydweithrediad y Flwyddyn

Gwobr ar gael i'w noddi
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn dathlu SME sydd wedi dangos ffyrdd o weithio eithriadol mewn partneriaeth, gan ddwyn ynghyd arbenigedd, arloesi, neu allu arbenigol i gyflawni effaith mesuradwy, cadarnhaol.

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw unigolyn neu dîm sy'n gweithio o fewn sefydliad â hyd at 249 o weithwyr.

Beth sy'n cyfrif fel cydweithio?

Dull gweithio cydweithredol a ddilynwyd gan unigolyn neu dîm o fewn i SME sydd wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol o bwys i'w sefydliad, eu cynnyrch, neu wasanaethau. Gallai cydweithio gynnwys gweithio gydag unigolion eraill, timau eraill neu sefydliadau allanol a gall ddigwydd naill ai mewn mentrau elusennol neu fasnachol.

Mae enghreifftiau o ganlyniadau cadarnhaol yn cynnwys:

  • Gwella cynnyrch neu wasanaethau

  • Rhannu neu drosglwyddo gwybodaeth, sgiliau neu addysg

  • Gwella effeithiolrwydd neu gyflawni arbedion costau

Stacked Shipping Containers

Rhagoriaeth Cadwyn Gyflenwi

Noddir gan: Banc Datblygu Cymru
banc-primary-logo-nostrapline-2col-dark-rgb_3x.jpg
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn dathlu SME sydd wedi dangos perfformiad eithriadol ar draws ei gadwyn gyflenwi, gan ragori mewn gwarantu ansawdd, cydymffurfio â diogelwch, cyflenwi prydlon, a gwytnwch, gan gynnwys parodrwydd rheolaeth seibr ac allforio

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw unigolyn neu dîm sy'n gweithio o fewn sefydliad â hyd at 249 o weithwyr.

Beth sy'n cyfrif fel rhagoriaeth cadwyn gyflenwi?

Dull, menter neu arfer parhaus sydd wedi cryfhau perfformiad neu ddibynadwyedd cadwyn gyflenwi'r SME. Fe all hyn gynnwys gwelliannau mewn prosesau ansawdd, safonau diogelwch, perfformiad cyflenwi, rheoli risg, cydymffurfio â gofynion rheolaeth seibr ac allforio, neu ffactorau pwysig eraill.

Mae enghreifftiau o ganlyniadau cadarnhaol yn cynnwys:

  • Gwell dibynadwyedd neu gysondeb o ran cyflenwi

  • Prosesau diogelwch neu gydymffurfio cryfach

  • Gwell gwytnwch yn wyneb tarfu neu risg

  • Mwy o hyder neu fodlonrwydd o du cwsmeriaid.

Financial Data Chart

SME Twf Uchel ym maes Amddiffyn a Diogelwch

Gwobr ar gael i'w noddi
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn cydnabod SME sydd wedi dangos twf masnachol eithriadol ac effaith ar y sector dros y 12-18 mis diwethaf, gan ddangos gallu cryf i dyfu, ymestyniad o'u marchnad, ac arweinyddiaeth o fewn ecosystem amddiffyn a diogelwch.

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw SME â hyd at 249 o weithwyr sydd wedi profi twf sylweddol dros y 12-18 mis diwethaf.

Beth sy'n cyfrif fel twf uchel?

Tystiolaeth glir o gynnydd masnachol sydyn a chynaliadwy. Gallai hyn gynnwys twf refeniw, mynediad i farchnad newydd, sail cwsmeriaid ehangach, cynnig ehangach o ran cynnyrch neu wasanaeth. neu safle cystadleuol cryfach.

Mae enghreifftiau o ganlyniadau cadarnhaol yn cynnwys:

  • Twf sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn refeniw neu niferoedd pobl

  • Ymestyn i mewn i farchnadoedd neu adrannau cwsmeriaid newydd

  • Tyfu gweithredoedd, gallu neu gyflenwi yn llwyddiannus

  • Dylanwad y gellir ei ddangos neu arweinyddiaeth o fewn y sector.

Community Meeting Vote

Gwerth Cymdeithasol ac Effaith Cymunedol mewn Diogelwch Cenedlaethol

Gwobr ar gael i'w noddi
Disgrifiad o'r Wobr:

Mae'r wobr hon yn cydnabod SME neu unigolyn sydd wedi darparu gwerth cymdeithasol ystyrlon a mesuradwy sy'n unol â nodau diogelwch cenedlaethol, gan gyfrannu at bobl, cymunedau neu’r amgylchedd drwy fentrau pwrpasol.

Pwy all gael eu henwebu?

Unrhyw unigolyn neu dîm sy'n gweithio o fewn sefydliad â hyd at 249 o weithwyr.

Beth sy'n cyfrif fel gwerth cymdeithasol ac effaith gymunedol?

Gweithgareddau neu raglenni sy'n creu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol a gysylltir â blaenoriaethau diogelwch cenedlaethol. Gallai hyn gynnwys datblygu sgiliau, prentisiaethau, cefnogaeth i gyn-filwyr, cynaliadwyedd amgylcheddol neu ymgysylltu cymunedol.

Mae enghreifftiau o ganlyniadau cadarnhaol yn cynnwys:

  • Creu cyfleoedd hyfforddi, sgiliau neu brentisiaethau

  • Cefnogi cyflogi neu bontio cyn-filwyr

  • Darparu gwelliannau amgylcheddol neu fentrau cynaliadwyedd

  • Cryfhau cymunedau lleol drwy allgyrraedd neu bartneriaethau

bottom of page