
Pam ymweld â DSRC?
Cyfleoedd rhwydweithio:
Mae DSRC yn denu ystod eang o gyfranogwyr o'r diwydiant amddiffyn a diogelwch, gan gynnwys swyddogion o'r llywodraeth, personél milwrol, gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant, ac arloeswyr technoleg. Mae mynychu'r digwyddiad yn rhoi cyfle rhagorol i rwydweithio gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol, darpar gleientiaid ac arbenigwyr y diwydiant.
Arddangosfa o Dechnoleg ar Flaen y Gad:
Mae DSRC yn cynnwys arddangosfa sy'n gyfle i weld y cynnydd diweddaraf mewn offer amddiffyn a diogelwch, systemau, a thechnolegau. Mae'n galluogi mynychwyr i archwilio ystod eang o gynnyrch a gwasanaethau ar dras sectorau amrywiol gan gynnwys tir, môr, awyr, a seibr-ddiogelwch. Mae'n gyfle i weld â'ch llygaid eich hunan yr arloesi diweddaraf, a chael mewnwelediad i ddyfodol y diwydiant.
Datblygu Busnes:
Mae DSRC yn gwasanaethu fel llwyfan ar gyfer datblygu busnes, gan ddarparu fforwm ble gall cwmnïau ymgysylltu mewn trafodaethau, trafod partneriaethau, ac archwilio darpar gydweithredu. Gall arwain at gytundebau gwerthfawr, cyd-fentrau, a chyfleoedd buddsoddi.
Mewnwelediadau i'r Diwydiant a Rhannu Gwybodaeth:
Mae'r digwyddiad yn cynnal cyfres o gynadleddau, seminarau a gweithdai ble bydd arbenigwyr y diwydiant ac arweinwyr meddyliau yn rhannu'u mewnwelediadau ac yn trafod pynciau a heriau allweddol sy'n wynebu'r sector amddiffyn a diogelwch. Gall mynychu'r sesiynau hyn ddarparu gwybodaeth werthfawr, diweddariadau ar dueddiadau yn y diwydiant, a mynediad at farn arbenigol.
Cwrdd â'r Prynwr:
Bydd DSRC yn cyflwyno cyfle i gynadleddwyr ymgysylltu'n uniongyrchol â thimau caffael sefydliadau mawr ar draws meysydd amddiffyn, diogelwch a gwytnwch, gan ddarparu mynediad i £biliynau o gyfleoedd caffael.
Sgiliau ac addysg:
Cysylltwch â chyflogwyr, byddwch yn ymwybodol o'r tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant, deallwch pa sgiliau sydd angen ar gyfer y dyfodol, a mynnwch gael eich ysbrydoli drwy glywed gan arbenigwyr y diwydiant.